WWF Weekly Lotttery
Terms and Conditions

  • 1. Your purchase of WWF Weekly Lottery entries is from WWF-UK, the “Promoter”), solely in accordance with the terms under which the charity from time to time promotes its lotteries.
  • 2. You represent and agree that;
    a) You are 18 years of age or over;
    b) You will not buy or purport to buy a WWF Weekly Lottery entry on behalf of anybody under the age of 18; and
    c) You will provide accurate entry information, including your name, personal address, email address and telephone number and accept that it is your responsibility to keep us informed of any changes as soon as they arise.
  • 3. You agree that you shall not be entitled to receive any prize if you are unable to substantiate to the Promoter your representations under paragraph 2 a) and b) above.
  • 4. Entry is open to residents of mainland Great Britain only (this excludes Northern Ireland, Isle of Man and the Channel Islands). Licence holders directly involved in the running of the WWF Weekly Lottery are excluded (list of names available on request).
  • 5. You accept that the WWF Weekly Lottery draws are licensed and regulated in Great Britain by the Gambling Commission and that in certain circumstances the Promoter may be unable to provide refunds or replacements once you have purchased your entry(s).
  • 6. The prizes for the WWF Weekly Lottery are printed on the marketing and promotional materials provided and are advertised on the WWF website. There are no alternatives to any prize and no interest is payable. Prizes will be paid by cheque and posted to the winners within 7 days of the draw taking place. Entrants will be notified as to any change in the prize structure via the WWF website.
  • 7. The cost of each entry is £1 per play. Players may purchase more than one entry and payment must be made in advance by one of the methods permitted.
  • 8. The Promoter may (without giving any reason or notice at its absolute discretion) decline to accept an application, cancel an existing subscription, or terminate or suspend the WWF Weekly Lottery scheme.
  • 9. The Promoter will conduct the WWF Weekly Lottery draw every Friday. The draw will be made utilising a Random Number Generator (RNG) that has been tested and approved by an independent, Gambling Commission approved, third-party test house.
  • 10. The winning numbers will be published on the WWF website and will be available via the Lottery Helpline (01524 753296, Monday - Friday, 9.00am - 5.00pm), from the following working day.
  • 11. No liability is accepted for the loss, theft or delayed receipt of any communication.
  • 12. Nothing in these terms and conditions shall limit the Promoter’s liability for death or personal injury caused by its negligence, fraud or for any other matter for which liability may not be limited by law.
  • 13. The Promoter is not liable to you for:
    a) Loss or damage, including the right to receive a prize, suffered by you if you have not complied with these rules, any relevant participation instructions, or the rules and regulations of the Gambling Commission under legislation laid down in the Gambling Act 2005;
    b) The Promoter’s failure or inability to contact you and/or award any prize due to any errors, omissions or inaccuracies in the contact details you have provided or your failure to update these if they change;
    c) Loss or damage incurred by you in connection with or arising from the participation in the WWF Weekly Lottery;
    d) Any delays or failures in the WWF website or any software, hardware or any other systems used by the Promoter for the administration of the WWF Weekly Lottery; and
    e) Any failure or delay beyond the Promoter’s reasonable control.
  • 14. The Promoter is not liable to you in contract, tort (including but not limited to negligence) or otherwise in connection with the WWF Weekly Lottery for loss of venue, contract, profits, anticipated savings or loss of data, any special or indirect or consequential losses or any loss of goodwill or reputation.
  • 15. All warranties, conditions or guarantees relating to the WWF Weekly Lottery made by or on behalf of the Promoter whether express or implied by law, in the course of dealings or otherwise, are excluded to the maximum extent permitted by law.
  • 16. The Promoter’s liability to you shall be limited to the amount of any prize which has become due to you.
  • 17. The Promoter is not responsible for any delay in bank payments.
  • 18. Any cancellation of an existing subscription will not affect your prior purchase of WWF Weekly Lottery entries nor your rights as a holder of such entries, providing that you have complied with the foregoing obligations.
  • 19. If you choose not to continue playing, you may cancel at any time by notifying the Promoter by post, email or by telephone. Any subscriptions you may have paid in advance will continue to play in the WWF Weekly Lottery until your credit expires, unless you specifically request a refund. Any advance payments under £1 will be treated as a donation.
  • 20. You may be asked for a quote and photograph for marketing purposes.
  • 21. The Promoter reserves the right to use winner’s names for promotional purposes. These will only be used in summary e.g. Mr W from Woking.
  • 22. The Promoter is not liable for any lost, stolen, delayed, incomplete or illegible entries, or entries that reach us after the closing date, or for any delay in bank payments. Proof of posting is not proof of delivery.
  • 23. Prizes will be automatically paid out to the winners by cheque, using the contact details provided. There is no need to contact the Promoter to claim a prize.
  • 24. WWF is committed to ensure that information about how to gamble responsibly and how to access information and help in respect of problem gambling is readily available to all. Please refer to the WWF website or request further information by calling the Lottery Helpline.
  • 25. WWF Weekly Lottery operates a Complaints and Disputes Procedure which is available via the WWF website or upon request by telephoning the Lottery Helpline.
  • 26. WWF will keep your data secure. We never sell your personal data and will not share it with other companies unless it is necessary to provide you with information or a service that you have requested from us. We may use your information to contact you in the future about WWF activities, including fundraising. If you would prefer not to receive communications from us, please let us know by contacting WWF Supporter Care Team on 01483 426444 or e-mail supportercare@wwf.org.uk.
  • 27. These terms and conditions shall be governed by English law, and the parties submit to the non-exclusive jurisdiction of the courts of England and Wales.
  • In 2023, £772,780.00 was raised from ticket sales in our WWF Weekly Lottery, with 13.12% spent on prizes, 5.97% on expenses and 80.91% being used to fund the work of WWF*. That translates to a fantastic £625,237.58! *Based on the Lottery Submissions made by WWF to the Gambling Commission, during the 2023 calendar year. The likelihood of winning a guaranteed WWF Weekly Lottery prize in the 2023 calendar year was, on average, 1 in 127.
  • 1. Rydych yn prynu eich tocynnau Loteri Wythnosol WWF gan WWF-UK, yr “Hyrwyddwr”), yn gwbl unol â’r telerau y mae’r elusen yn hyrwyddo ei loterïau o danynt o dro i dro.
  • 2. Rydych yn honni ac yn cytuno;
    a) eich bod dros 18 oed;
    b) na fyddwch yn prynu neu’n honni prynu tocyn Loteri Wythnosol WWF ar ran unrhyw un dan 18 oed; ac
    c) y byddwch yn rhoi gwybodaeth gywir ar eich tocyn, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad personol, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn, ac y byddwch yn derbyn mai eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod inni am unrhyw newidiadau cyn gynted ag y byddant yn digwydd.
  • 3. Rydych yn cytuno na fydd hawl gennych i dderbyn unrhyw wobr os na fyddwch yn gallu cadarnhau i’r Hyrwyddwr eich sylwadau o dan baragraff 2 a) a b) uchod.
  • 4. Mae’r Loteri ar agor i breswylwyr Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn unig (nid yw hyn yn cynnwys Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel). Caiff deiliaid trwydded sy’n cymryd rhan uniongyrchol yn y gwaith o redeg Loteri Wythnosol WWF eu heithrio (mae rhestr o enwau ar gael o wneud cais).
  • 5. Rydych yn derbyn bod Loteri Wythnosol WWF yn drwyddedig ac wedi’i rheoleiddio ym Mhrydain Fawr gan y Comisiwn Hapchwarae, ac o dan rai amgylchiadau penodol, efallai na fydd modd i’r Hyrwyddwr roi ad-daliadau neu amnewidiadau ar ôl ichi brynu eich tocyn(nau).
  • 6. Mae gwobrau Loteri Wythnosol WWF wedi’u hargraffu ar y deunyddiau marchnata a hyrwyddo a ddarperir a’u hysbysebu ar wefan WWF. Nid oes dewis amgen ar gyfer unrhyw wobr ac ni thelir unrhyw log. Caiff y gwobrau eu talu drwy siec a’u postio at yr enillwyr cyn pen 7 diwrnod ar ôl cynnal y loteri. Caiff y cystadleuwyr eu hysbysu am unrhyw newid i’r strwythur gwobrau ar wefan WWF.
  • 7. Mae’r tocynnau yn costio £1 yr un. Gall y chwaraewyr brynu mwy nag un tocyn a rhaid talu ymlaen llaw trwy un o’r dulliau a ganiateir.
  • 8. Gall yr Hyrwyddwr (heb roi unrhyw reswm na rhybudd ar ei ddisgresiwn llwyr) wrthod derbyn cais, canslo tanysgrifiad sy’n bodoli eisoes, neu derfynu neu atal cynllun Loteri Wythnosol WWF.
  • 9. Bydd yr Hyrwyddwr yn cynnal Loteri Wythnosol WWF bob dydd Gwener. Defnyddir generadur rhifau ar hap i gynnal y loteri, sydd wedi ei brofi a’i gymeradwyo gan gwmni profi trydydd parti annibynnol sydd wedi’i gymeradwyo gan y Comisiwn Hapchwarae.
  • 10. Caiff y rhifau buddugol eu cyhoeddi ar wefan WWF a byddant ar gael drwy ffonio llinell gymorth y Loteri (01524 753296, dydd Llun – dydd Gwener, 9.00am - 5.00pm), o’r diwrnod gwaith canlynol ymlaen.
  • 11. Ni dderbynnir unrhyw atebolrwydd am golli, dwyn neu oedi wrth dderbyn unrhyw gyfathrebiad.
  • 12. Ni fydd dim byd yn y telerau ac amodau hyn yn cyfyngu ar atebolrwydd yr Hyrwyddwr am farwolaeth neu anaf personol a achoswyd gan ei esgeulustod, twyll neu am unrhyw fater arall na ellir cyfyngu ar yr atebolrwydd amdano o dan y gyfraith.
  • 13. Nid yw’r Hyrwyddwr yn atebol i chi am:
    a) Colled neu ddifrod, gan gynnwys yr hawl i dderbyn gwobr, a ddioddefir gennych os na fyddwch wedi cydymffurfio â’r rheolau hyn, unrhyw gyfarwyddiadau cyfranogi perthnasol, neu reolau a rheoliadau’r Comisiwn Hapchwarae o dan ddeddfwriaeth a ragnodir yn Neddf Gamblo 2005;
    b) Methiant neu anallu’r Hyrwyddwr i gysylltu â chi a/neu ddyfarnu unrhyw wobr oherwydd unrhyw wallau, anweithiau neu anghywirdebau yn y manylion cyswllt a ddarparwyd gennych neu eich methiant i ddiweddaru’r rhain os ydynt yn newid;
    c) Colled neu ddifrod a gewch mewn cysylltiad â neu’n codi o’ch cyfranogiad yn Loteri Wythnosol WWF;
    d) Unrhyw oedi neu fethiannau ar wefan WWF neu unrhyw feddalwedd, caledwedd neu unrhyw systemau eraill a ddefnyddir gan yr Hyrwyddwr ar gyfer gweinyddu Loteri Wythnosol WWF; ac
    e) Unrhyw fethiant neu oedi y tu hwnt i reolaeth resymol yr Hyrwyddwr.
  • 14. Nid yw’r Hyrwyddwr yn atebol i chi mewn contract, camwedd (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i esgeulustod) neu fel arall mewn cysylltiad â Loteri Wythnosol WWF am golli lleoliad, contract, elw, arbedion a ragwelwyd neu golled data, unrhyw golledion arbennig neu anuniongyrchol neu ganlyniadol neu unrhyw golled ewyllys da neu enw da.
  • 15. Mae’r holl warantau, amodau neu warantebau mewn perthynas â Loteri Wythnosol WWF a wneir gan neu ar ran yr Hyrwyddwr, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg dan y gyfraith, yng nghwrs masnachu neu fel arall, wedi’u heithrio i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.
  • 16. Bydd atebolrwydd yr Hyrwyddwr i chi wedi’i gyfyngu i swm unrhyw wobr a fydd yn ddyledus i chi.
  • 17. Nid yw’r Hyrwyddwr yn gyfrifol am unrhyw oedi i daliadau banc.
  • 18. Ni fydd unrhyw ddilead o danysgrifiad sy’n bodoli eisoes yn effeithio ar eich pryniant blaenorol o docynnau Loteri Wythnosol WWF na’ch hawliau fel deiliad tocynnau o’r fath, os byddwch wedi cydymffurfio â’r rhwymedigaethau blaenorol.
  • 19. Os dewiswch beidio â pharhau i chwarae, gallwch ddileu eich tanysgrifiad unrhyw bryd drwy hysbysu’r Hyrwyddwr trwy’r post, anfon neges e-bost neu drwy ffonio. Bydd unrhyw danysgrifiadau y gallwch fod wedi’u talu ymlaen llaw yn parhau i chwarae yn Loteri Wythnosol WWF hyd nes y daw eich credyd i ben, oni fyddwch yn gwneud cais penodol am ad-daliad. Caiff unrhyw daliadau ymlaen llaw sy’n werth llai na £1 eu trin fel rhodd.
  • 20. Mae’n bosibl y gofynnir ichi am ddyfyniad a ffotograff at ddibenion marchnata.
  • 21. Mae’r Hyrwyddwr yn cadw’r hawl i ddefnyddio enwau’r enillwyr at ddibenion hyrwyddo. Dim ond enwau wedi’u crynhoi a ddefnyddir e.e. Mr W o Wrecsam.
  • 22. Nid yw’r Hyrwyddwr yn atebol am unrhyw docynnau a gollwyd, a gafodd eu dwyn, y bu oedi arnynt, sy’n anghyflawn neu’n annarllenadwy, na’r rhai sy’n ein cyrraedd ar ôl y dyddiad cau, nac am unrhyw oedi o ran taliadau banc. Nid yw prawf o bostio’n brawf o dderbyn.
  • 23. Caiff y gwobrau eu talu’n awtomatig i’r enillwyr drwy siec, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a roddwyd. Nid oes angen cysylltu â’r Hyrwyddwr i hawlio gwobr.
  • 24. Mae WWF wedi ymrwymo i sicrhau bod gwybodaeth ynghylch sut i gamblo’n gyfrifol a sut i gael gwybodaeth a chymorth o ran gamblo problemus ar gael yn hawdd i bawb. Ewch i wefan WWF neu gofynnwch am fwy o wybodaeth drwy ffonio Llinell Gymorth y Loteri.
  • 25. Mae Loteri Wythnosol WWF yn gweithredu Gweithdrefn Cwynion ac Anghydfodau sydd ar gael ar wefan WWF neu o wneud cais drwy ffonio Llinell Gymorth y Loteri.
  • 26. Bydd WWF yn cadw eich data yn ddiogel. Ni fyddwn byth yn gwerthu eich data personol ac ni fyddwn yn eu rhannu â chwmnïau eraill oni bai fod angen gwneud hynny er mwy rhoi ichi wybodaeth neu wasanaeth yr ydych wedi gofyn i ni amdano. Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi yn y dyfodol ynghylch gweithgareddau WWF, gan gynnwys codi arian. Os yw’n well gennych beidio â chael cyfathrebiadau gennym, dylech roi gwybod inni drwy gysylltu â Thîm Gofal Cefnogwyr WWF ar 01483 426444 neu anfon neges e-bost at supportercare@wwf.org.uk.
  • 27. Llywodraethir y telerau ac amodau hyn gan gyfraith Loegr, ac mae’r partïon yn ymostwng i awdurdodaeth anghyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr.
  • Os bydd perfformiad Loteri Wythnosol WWF yn cyrraedd y disgwyliadau cyllidebol, yn ystod 2023 rydym yn rhagamcanu y bydd gwerthiannau tocynnau Loteri Wythnosol WWF yn codi £625,237.58, gyda 13.12% yn cael ei gwario ar wobrau, 5.97% yn cael ei hail-fuddsoddi yn y gwaith o dyfu ein rhaglen loteri er mwyn codi hyd yn oed mwy o arian yn y dyfodol, a 80.91% yn cael ei defnyddio i ariannu gwaith WWF.